Mae Geiriau’n Bwysig

Adeiladu ar Ganllawiau DEEP ar gyfer Dogfennau Dementia-Gyfeillgar

Cyflwyniad

  1. Mae sefydliadau ar draws pob sector yn cynhyrchu llwyth o wybodaeth ysgrifenedig.

  2. Yn aml, nid ydym yn cyflwyno’r wybodaeth hon yn y ffordd fwyaf hygyrch.

  3. I bobl sy’n byw gyda dementia, mae’r profiad darllen yn gallu mynd yn anoddach ac yn fwy rhwystredig nag y mae angen iddo fod, ac mae’n gallu arwain at ddiffyg hyder.

  4. Mae gan bobl sy’n byw gyda dementia yr hawl i ddeall gwybodaeth allweddol am eu gofal ac i ymateb i ymgynghoriadau ar faterion sy’n effeithio arnynt.

  5. Pwrpas y prosiect yw gwneud hyn yn haws drwy ymchwilio a datblygu egwyddorion ar gyfer ysgrifennu dementia-gyfeillgar.

stack of documents

Cefndir

Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith sydd wedi cael ei wneud yn barod gan y Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia (DEEP), Cymdeithas Alzheimer’s, ac AbilityNet. Mae’r prosiect hefyd yn defnyddio egwyddorion Saesneg Clir a gwaith Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C).

Mae’r awduron arweiniol yn Arbenigwyr trwy Brofiad. Golygydd Saesneg Clir a Chyfieithydd yw’r un cyntaf sy’n cefnogi dau berthynas agos sy’n byw gyda dementia. Mae’r ail yn byw gyda Chlefyd Alzheimer’s Cynnar. Mae pobl eraill sy’n byw gyda dementia wedi trafod enghreifftiau o’u profiadau mewn fforymau ar-lein a grwpiau cymorth lleol.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ysgrifennu dementia-gyfeillgar yn Saesneg. Mae nifer o’r pwyntiau hyn yr un mor berthnasol i ysgrifennu’n Gymraeg, yn enwedig o ran cynllunio’r ddogfen a’i harddull. Mae strwythurau gramadegol dementia-gyfeillgar yn Gymraeg y tu hwnt i waith y prosiect hwn. Fodd bynnag, byddai egwyddorion Cymraeg Clir yn bwynt dechrau da ar gyfer hyn.

Dull

  • Rydym wedi adolygu canllawiau presennol gan DEEP a Chymdeithas Alzheimer’s

  • Roedd y canllawiau hyn yn ffurfio sail trafodaethau gyda phobl sy’n byw gyda dementia, a roddodd eu barn am yr hyn sy’n gwneud gwybodaeth ysgrifenedig yn fwy dementia-gyfeillgar. Rhoddodd bobl adborth drwy fforymau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, grwpiau cymorth lleol a chyswllt wyneb yn wyneb.

  • Rydym wedi defnyddio gwybodaeth o ganllawiau eraill. Er enghraifft, edrychom ar y ffordd y mae egwyddorion Saesneg Clir yn gallu ein helpu i ysgrifennu dogfennau dementia-gyfeillgar. Edrychom hefyd ar safonau a chanllawiau o Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C) [Saesneg yn unig].

Canlyniadau a Chasgliadau

Rydym wedi rhannu ein canlyniadau a’n casgliadau i dri phrif bennawd. Gweler y rhain isod gydag enghreifftiau o bethau i’w hystyried. Nid yw’r rhain yn rhestrau cynhwysfawr, ond maen nhw’n rhoi enghreifftiau o rai o’r pwyntiau a gododd fwyaf. Rydym ni’n rhoi dyfyniadau gan chwe pherson sy’n byw gyda dementia i amlygu’r pwyntiau.

  1. Cynllunio’r Ddogfen.

  2. Arddull y Ddogfen.

  3. Ysgrifennu’r Ddogfen.

1. Cynllunio’r Ddogfen:

  1. Deall anghenion y gynulleidfa darged.

  2. Cyllidebu digon o amser ac adnoddau er mwyn cynllunio, ysgrifennu, dylunio a golygu.

  3. Trefnu’r holl wybodaeth cyn ysgrifennu neu ddylunio eich dogfen.

  4. Cynllunio i ddelio ag un pwnc ar y tro.

  5. Sicrhau bod y wybodaeth yn llifo’n rhesymegol ac yn hawdd ei chyfeirio ati.

  6. Ystyried a fyddai fformat amgen yn fwy priodol ar gyfer eich cynulleidfa darged. Er enghraifft, a fyddai fideo byr yn gweithio’n well i gyfleu’r wybodaeth?

  7. Cofio y bydd rhai egwyddorion yn wahanol ar gyfer ysgrifennu gwe nag ar gyfer ysgrifennu ar bapur.

  8. Adolygu eich dogfennau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i fodloni anghenion darllenwyr.

Dim ond un peth ar y tro y galla i delio ag ef. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod mewn adrannau ar wahân.
Dwi’n hoffi testun du ar gefndir gwyrdd, melyn neu lwyd golau iawn.

2. Arddull y Ddogfen:

  1. Defnyddio ymylon llydan a gadael digon o le rhwng elfennau ar y dudalen.

  2. Gwneud y ddogfen yn hawdd ei llywio drwyddi gydag adrannau a phenawdau.

  3. Defnyddio rhestrau fertigol gyda phwyntiau bwled neu rifau i rannu testun di-dor.

  4. Yn gyffredinol, mae ffont sans serif gyda llinellau clir a siapiau syml yn boblogaidd. (Mae ffontiau sans serif adnabyddus yn cynnwys Arial a Helvetica. Mae Source Sans Pro yn opsiwn ar-lein da.)

  5. Osgoi testun italig ac addurno testun.

  6. Dim ond dolenni y dylech eu tanlinellu.

  7. Defnyddio cyferbyniad lliw o leiaf 7:1

  8. Defnyddio un golofn o destun os yn bosibl.

  9. Alinio’r holl destun i’r chwith.

  10. Lleihau croesgyfeiriadau.

Mae’n eithaf defnyddiol i gael ymyl llydan er mwyn ysgrifennu dolenni a sylwadau.
Mae pobl yn rhoi testun du ar gefndir melyn llachar ar gyfer dementia. Yn bersonol, mae’r melyn yn rhy llachar i ffocysu arno.

3. Ysgrifennu’r Ddogfen:

  1. Defnyddio brawddegau byr a pharagraffau byr.

  2. Defnyddio geiriau syml ac opsiynau byrrach.

  3. Ceisio osgoi acronymau a thalfyriadau. Ysgrifennu’r enwau/teitlau yn llawn.

  4. Defnyddio gramadeg da ac atalnodi da.

  5. Lleihau’r defnydd o ragenwau a’r collnod meddiannol ‘s’. [Noder: mae’r pwynt hwn yn cyfeirio at strwythurau gramadegol Saesneg oherwydd mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar ysgrifennu Saesneg hyd yn hyn. Byddai gwaith tebyg yn y Gymraeg yn cynnwys pwyntiau sy’n benodol i’r iaith Gymraeg. Er enghraifft, ysgrifennu er mwyn osgoi treigladau ar bosteri neu osgoi berfau amhersonol.]

  6. Gwneud pwyntiau’n gadarnhaol a cheisio osgoi brawddegau negyddol os yn bosibl.

  7. Defnyddio berfau gweithredol yn hytrach na berfau goddefol. (Er enghraifft, gallech chi ysgrifennu “Bydd y grŵp llywio yn adolygu’r ymgynghoriad”, yn hytrach na “bydd yr ymgynghoriad yn cael ei adolygu gan y grŵp llywio”.)

  8. Cadw brawddegau a pharagraffau gyda’i gilydd ar yr un dudalen.

  9. Peidio â defnyddio ymadroddion gyda gormod o enwau un ar ôl y llall er mwyn gwneud yr ystyr yn fwy eglur.

  10. Ceisio osgoi ystrydebau.

Nid yw pobl bob amser yn hoffi atalnodau Rhydychen, ond mae llawer yn well pan fyddan nhw’n eu defnyddio – mae’n rhannu’r wybodaeth.
Mae’n dda pan fyddan nhw’n rhoi rhestr cynnwys yn y blaen a mynegai yn y cefn.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth am yr awduron